Skip to content
Tenfell
Closed tender
Published 27 May 2022

Gwaith MARCHNATA prosiect Gwirfoddoli a'r Gymraeg 2022

Mentrau Iaith Cymru

Key facts

Closing date
10 Jun 2022
Procedure
open
Buyer type
Other public body
Source
Sell2Wales archive (Open Contracting)

Description

Cytundeb Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus llawrydd cyfnod penodol- y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2022.Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022- Cyfle cyffrous i gwmni neu unigolyn profiadol, proffesiynol a chymwys i weithio gyda ni ar Ran 3 cynllun arloesol Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022, sef: Ymgyrch Marchnata- Denu Gwirfoddolwyr.Bydd y cwmni llwyddiannus yn cyd-weithio gyda staff Mentrau Iaith Cymru (MIC) a staff endidau eraill i wireddu’r cynllun.Mae MIC wedi bod yn llwyddiannus gyda chais i Gronfa Strategol Gwirfoddoli Cymru. Mae’r Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn rhaglen ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.Y Gwaith:• Creu a gweithredu ymgyrch Marchnata, Hyrwyddo a Chyfathrebu ar gyfer y cynllun Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022• Ymgyrch fydd yn cynnwys elfennau yn y cyfryngau traddodiadol ac ar y cyfryngau cymdeithasol- rydym yn agored i syniadau gan enillwyr y cytundeb a bydd wedyn angen blaenoriaethu’r gyllideb i’r syniadau sy’n cael eu ffafrio• Y gynulleidfa darged i’r ymgyrch fydd y cyhoedd- rydym eisiau targedu gwirfoddolwyr i gefnogi'r endidau Cymraeg megis y Mentrau iaith, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â denu gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu Cymraeg i ba bynnag fudiad y maent yn gwirfoddoli- felly bydd angen defnyddio sawl llwyfan gwahanol i ledaenu’r ymgyrch• Lansio’r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Awst 2022 gan gynnwys cyd-drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad lansioMudiad cenedlaethol yw MIC sy'n cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol ledled y wlad www.mentrauiaith.cymruY cwmni/ unigolyn llwyddiannus:• Profiad eang o greu ymgyrchoedd Marchnata llwyddiannus• Dealltwriaeth o sefyllfa'r Gymraeg, Prosiect 2050 a'r Trydydd Sector yng Nghymru• Profiad o weithio mewn partneriaeth, o weithio gyda sawl mudiad/ cwmni ar y tro a phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyrAm fwy o wybodaeth a phecyn ymgeisio am y tendr cysylltwch ag Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) [email protected] Dyddiad Cau: 10.06.2022

(WA Ref:121759)The buyer considers that this contract is suitable for consortia bidding.

Categories (CPV)

Similar open tenders

About Mentrau Iaith Cymru

Their tenders, awards, contracts coming up for renewal, decision makers and committee papers.

View buyer profile

Published by the buyer on Sell2Wales archive (Open Contracting) (Open Government Licence v3.0). Always read the original notice before responding.