Skip to content
Tenfell
Closed tender
Published 04 May 2023

Request for an Expression of Interest for Electoral Commission Board Effectiveness Review 2023/24

The Electoral Commission · London

Key facts

Closing date
18 May 2023
Procedure
limited
Buyer type
Central government
Source
Sell2Wales archive (Open Contracting)

Description

NODER: Nid oes angen ymateb tendr ffurfiol i'r cais hwn am Ddatganiad o Ddiddordeb, naill ai fel cynnig Technegol neu fel pris a gyflwynir.Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WNEUD YW CADARNHAU BOD DIDDORDEB GENNYCH MEWN CAEL EICH YSTYRIED AR GYFER UNRHYW WAHODDIAD DILYNOL I DENDRO DRWY DDEFNYDDIO'R MANYLION CYSWLLT I GWSMERIAID AR DUDALEN 6, erbyn 18/05/2023.Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneudY Comisiwn yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys deg comisiynydd a gaiff eu henwebu â buddiannau gwahanol sy'n cynnwys cenhedloedd y DU ac enwebiadau gan bleidiau gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn, a bydd y Tîm Gweithredol yn bresennol yn ogystal â Chynghorydd Annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd y Bwrdd yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau anffurfiol ledled y wlad er mwyn canolbwyntio'n fanwl ar faterion perthnasol.Mae gan y Bwrdd ddau bwyllgor, sef y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol, a chaiff y ddau eu cadeirio gan Gomisiynydd.Mae'r Tîm Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a phedwar Cyfarwyddwr, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol (Ysgrifennydd y Bwrdd), a fydd yn bresennol.Cyfnod yr adolygiad hwnBwriedir dechrau'r adolygiad ddechrau'r haf yn 2023, gydag adroddiad interim ym mis Hydref, a'r adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2024Sail yr Adolygiad hwnMae gan y Comisiwn Etholiadol ymrwymiad parhaus i wella ac, fel rhan o hyn, byddwn yn ymgymryd ag adolygiad mewnol o berfformiad bob blwyddyn yn ogystal ag archwiliad o sgiliau a buddiannau comisiynwyr. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni nodi meysydd gwella.Cwmpas y gwaithEr mwyn galluogi'r Comisiwn i feithrin gwell dealltwriaeth o'n cryfderau, ein gwendidau a sut y gallwn weithio'n well, mae'r Bwrdd wedi cytuno y dylid cynnal adolygiad allanol annibynnol o effeithiolrwydd y Bwrdd.Mae gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr weledigaeth “un tîm” ar gyfer y Comisiwn i gynnwys y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r staff.Rhagwelwn y bydd yr adolygiad o effeithiolrwydd hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:• Dealltwriaeth y Bwrdd o'r sefydliad a'i randdeiliaid amrywiol, ei gyfeiriad strategol a'i amgylchedd gweithredol• Gallu'r Bwrdd i bennu amcanion strategol clir a mesur perfformiad y sefydliad yn erbyn yr amcanion hynny, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i sganio'r gorwel a rheoli risg, gallu'r Bwrdd i gydweithio ac fel un tîm gyda'r Tîm Gweithredol a'r staff, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i gael y gorau o'r Tîm Gweithredol a gallu'r Tîm Gweithredol i gefnogi'r Bwrdd yn effeithiol• Ymddygiadau Comisiynwyr wrth fynegi safbwyntiau a gwrando ar safbwyntiau eraill• Ymrwymiad Comisiynwyr i fudd pennaf y sefydliad, megis ei ymddygiadau a'i werthoedd craiddMethodoleg y gwaith adolyguDisgwylir y bydd y fethodoleg ar gyfer adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd yn cynnwys y canlynol:• Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Archwilio dogfennaeth llywodraethu, cofnodion ac adroddiadau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau.• Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Arsylwi ar weithrediadau cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn a'r pwyllgorau.• Cyfweliadau (grŵp a/neu unigol) ag aelodau'r Bwrdd, aelodau'r Tîm Gweithredol a staff ehangach y ComisiwnGweithgarwch arall y cytunir ei fod yn angenrheidiol er mwyn llunio asesiad ystyrlonStrwythur adroddiadauMae'r Bwrdd yn disgwyl y bydd adroddiad mewnol interim ar yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei ddarparu i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Bydd hyn yn cynnig cyfle i roi adborth i awduron yr adroddiad ac eglurhad pan fo angen.Dylai'r adroddiad interim gynnwys y prif adrannau canlynol:• Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hygyrch o'r canfyddiadau a'r argymhellion• Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd fel y disgrifir yng Nghwmpas y Gwaith• Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol• Asesiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi trosolwg o ba brosesau sy'n gweithio'n dda a lle y gellir datblygu; dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio atynt• Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad roi argymhellion cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol (CAMPUS) ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn• Yr Adroddiad Terfynol fydd cynnyrch terfynol yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd, a fydd yn cynnwys canfyddiadau a dadansoddiad yr Adroddiad Asesu gan ddarparu argymhellion CAMPUS• Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hawdd ei ddeall o'r canfyddiadau a'r argymhellion• Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd a ddisgrifir yn yr adran Cwmpas y Gwaith uchod• Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd, a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn• Asesiad: Rhaid i'r adran hon roi trosolwg o ba agweddau ar y Bwrdd sy'n gweithio'n dda, o fewn y weledigaeth un tîm, a lle gellir datblygu Dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn• Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad gynnig argymhellion CAMPUS ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn, o fewn y weledigaeth o ddatblygu un tîmAmserlen y ProsiectPennwyd y dyddiadau canlynol fel cerrig milltir posibl ar gyfer amserlen y prosiect. Gall y Comisiwn addasu neu newid yr amserlen hon ar unrhyw adeg, fel y bo angen.Digwyddiad DyddiadArsylwi ar gyfarfod Bwrdd y Comisiwn 26 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 25 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol 21 Medi 2023I'w gyflawni DyddiadYr Adroddiad Interim Hydref 2023Yr Adroddiad Terfynol Mawrth 2024Canllawiau ar ddarparu Datganiad o DdiddordebNoder y gall y meini prawf uchod newid wrth i unrhyw Wahoddiad i Dendro posibl gael ei ddatblygu.Hawl i ganslo neu amrywio'r Datganiad o Ddiddordeb hwnCeidw'r Awdurdod yr hawl i wneud y canlynol:- Canslo'r Datganiad o Ddiddordeb hwn, neu ran ohono, ar unrhyw gam ac ar unrhyw adeg;- Diwygio'r Datganiad o Ddiddordeb, rhoi eglurhad, ychwanegu ato neu dynnu'r datganiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, yn ôl ar unrhyw adeg.Manylion cyswllt i gwsmeriaid ar gyfer y Datganiad o DdiddordebEnw: Paul Stringer, Uwch-gynghorydd CaffaelRhif ffôn: 020 7271 0698Cyfeiriad e-bost: [email protected]: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=131323.

Contact Paul Stringer for copy of Request for Expression of Interest for Electoral Commission Board Effectiveness Review 2023/24 in Welsh - [email protected](WA Ref:131323)

Categories (CPV)

Similar open tenders

  • Digital Marketplace

    Location: Yorkshire and the HumberBuyer: Yorkshire Purchasing Organisation

    Open tenderCloses 6 Nov, 20261 dayValue £800.00mSource Find a Tender

    YPO are looking for a Provider to be appointed onto a Framework Agreement for the provision of a Digital Marketplace. The Framework is designed to meet the needs of all public sector organisations which includes YPO’s internal requirements. This Framework is designed to meet the needs of YPO and Other Contracting Autho

  • Fair Value & Expected Credit Loss

    Location: West MidlandsBuyer: Warwickshire County Council

    Open tenderCloses 27 Nov, 202622 daysValue £160.00kSource Find a Tender

    Warwickshire County Council (the Council) is seeking a single provider to produce annual reports detailing the fair value and expected credit loss of relevant non-treasury investments. Where deemed material, these valuations will be included in the Council's Annual Statement of Accounts. The maximum contract value ove

  • The Provision of Work Planning Software Application [642]

    Location: IrelandBuyer: Commission for Regulation of Utilities

    Open tenderCloses 30 Nov, 202625 daysValue €210.00KSource TED

    The CRU prepares a Strategic Plan on a three-year cycle and develops annual Work Plans to support delivery of its priorities, objectives and outcomes. Progress is monitored quarterly through Work Plan review reports and monthly through Focus Area Reports for selected highpriority programmes, projects and organisational

  • Insurance brokerage and associated services III

    Location: Yorkshire and the HumberBuyer: Yorkshire Purchasing Organisation

    Open tenderCloses 14 Dec, 202639 daysValue £10.00mSource Find a Tender

    YPO as the lead authority, together with collaborating authorities ESPO and NEPO, are seeking to establish a compliant route to market for the provision of insurance brokerage and associated services, for use across the whole public sector. YPO is managing this procurement process in accordance with the Procurement Act

  • York College - Provision of EV Cars Salary Sacrifice Scheme

    Location: Yorkshire and the HumberBuyer: York College

    Open tenderCloses 27 Nov, 202622 daysValue £4.00mSource Find a Tender

    York College wishes to appoint a single supplier to deliver a fully managed Electric Vehicle (EV) Salary Sacrifice Scheme for eligible employees. The College's objectives are to: • Support net zero and sustainability commitments. • Enhance employee benefits, wellbeing, recruitment and retention. • Provide employees wit

  • LEGO299 End-to-End Reporting, Budgeting, Forecasting and Financial Reporting Solution

    Location: West MidlandsBuyer: The Office for Legal Complaints

    Open tenderCloses 30 Nov, 202625 daysValue £100.00kSource Find a Tender

    A fit-for-purpose budgeting, forecasting and financial reporting solution that automates LeO's existing Finance processes, integrates with relevant source systems and can be operated by Finance following implementation.

About The Electoral Commission

Their tenders, awards, contracts coming up for renewal, decision makers and committee papers.

View buyer profile

Published by the buyer on Sell2Wales archive (Open Contracting) (Open Government Licence v3.0). Always read the original notice before responding.